Ar brynhawn ddydd Sul roedd chwaraewyr Caerdydd yn siwr o deimlo ychydig yn flinedig ar ôl diflastod y gêm gyfartal yn erbyn Colchester ond byddai gwylio'r bocswyr, Amir Khan a Ricky Hatton, yn eu paru nhw â chewri'r Uwch Gynghrair, Tottenham Hotspur, yn nhrydedd rownd y Cwpan F.A yn sicr wedi codi calonau yn y Brif Ddinas.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Adar Gleision wedi mwynhau chwarae yn erbyn tîmau mawr y wlad, wrth iddynt gwrdd ag Arsenal, Blackburn a Leeds (pan oeddent ar eu gorau yn Ewrop) yn ddiweddar. Mae'r tymor yma wedi bod yn un gymysglyd i Spurs, a gan eu bod nhw'n bell o gystadlu am le ar gyfer y Cwpan Ewropeaidd, mae'n debyg y byddent yn trin y gystadleuaeth hon o ddifri gan ei fod yn cynrychioli eu hunig wir obaith o ennill tlws.
Fel sydd wedi bod yr hanes ym Mharc Ninian yn ddiweddar, siom oedd prynhawn ddydd Sadwrn, wrth i Gaerdydd methu a churo Colchester. Os oedd gemau diwethaf yn blino cefnogwyr, roedd y gêm yma'n ddigon i wneud i'r dorf gysgu. Roedd y ddau dîm yn digon parod i fynd am fuddugoliaeth ond y broblem oedd bod y naill bartneriaeth ymosodol na'r llall yn gallu dod o hyd i'r sbardun a fyddai'n arwain at gôl. Nid yw'r Adar Gleision wedi sgorio am bedwar gêm erbyn hyn ac mae'r pwysau'n cynyddu ar Michael Chopra a Steven Thompson nawr bod Paul Parry wedi'i anafu ac am fod yn absennol am o leiaf pedwar wythnos.
Roedd y pwysau ar y chwaraewyr cartref yn dangos ar adegau wrth iddynt fethu a chael gafael cadarn ar dempo'r chwarae. Riccy Scimeca daeth agosaf â'i ergyd ffyrnig a chafodd ei arbed ond roedd y ffaith bod yr ymgais yma wedi dod o bump llath ar hugain yn dweud y cyfan. Chwaraewr i ddisgleirio i Colchester oedd Jamie Cureton, a oedd yn fywiog ac yn dod â llif i chwarae ei dîm efo'i basio gwyliadwrus. Yn anffodus i Cureton a gweddil yr ‘Us', roedd ei gyd-ymysodwr, Chris Iwelumo, yn cael hunllef o flaen y gôl, heb wir boeni Neil Alexander trwy'r prynhawn.
Er yr holl ennill a phêl-droed disglair yn gynharach yn y tymor, mae'r gemau diwethaf wedi bod yn achos go iawn i boeni. Nid yn unig y gêm yn erbyn y Tottenham a fydd yn awrwyddocaol am fis Ionawr, ond y ‘ffenestr brynu', a fydd yn agor adeg y Flwyddyn Newydd. Mae'n hanfodol bod Dave Jones yn ychwanegu at y garfan, sydd yn gyflym yn tenhau ag anafiadau, os yr ydym am gadw lle yn safleoedd y gemau ail-gyfle, heb sôn am ddyrchafiad awtomatig. Yfory y mae Ipswich yn ymweld, a gobeithio'n dilyn hwb y Cwpan F.A, mi fydd y dorf yn llawer mwy na'r 13,000 a fu'n dystion i'r gêm gyfartal penwythnos diwethaf. Os gawn ni'r niferoedd, y gobaith yw y bu'r awyrgylch yn ddigon i godi'r Adar Gleision i drechu'r ‘Bechgyn Tractor'!