Roedd yna angen arwr ar Dave Jones - amddiffynwr â digon o brofiad o bêl-droed safon uchel. Arwyddodd Alan Wright, yr amddiffynwr lleiaf erioed i chwarae yn yr Uwch Gynghrair, ar ddydd Mercher. Mae'r cyn-chwaraewr Aston Villa wedi ymuno ar fenthyg am fis o Sheffield United, a dylai ymddangos yn erbyn gelynion y ‘Blades', Sheffield Wednesday yfory.
Eironig yw hi bod Wright wedi teithio o Sheffield lawr i Gaerdydd yn barod yr wythnos yma, ond iddo ddychwelyd i Swydd Efrog brynhawn Sadwrn i wynebu Wednesday. Y disgwyl yw bod y dyn penmoel am ddechrau fel cefnwr chwith efo Kevin McNaughton yn symud i'r dde. Yn anffodus i Chris Gunter, mi fydd rhaid i'r chwaraewr ifanc fodloni ar le ar y fainc er iddo ddisgleirio yn erbyn QPR yr wythnos diwethaf.
Mae'n ryddhad i hyfforddwr dîm Caerdydd, sydd wedi'i rwystro'n ddiweddar efo'i ymgeisiadau i arwyddo chwaraewyr. Nid oedd Alan Smith yn fodlon gostwng cynghrair i ymuno, a fel y sonir, ni chafodd y clwb y cyfle i gadw Chambers ar ôl iddo berfformio'n gadarn yn ystod ei amser yma.
Colled arall oeddi hi nos Wener diwethaf. Yn annisgwyl i dorf Parc Ninian, colli i Queen's Park Rangers a wnaeth yr Adar Gleision. Mewn gêm flêr ddifrifol roedd y gôl-geidwaid, y dorf a chamerau Sky Sports wedi'u diflasu'n llwyr ac yn barod i dderbyn canlyniad ddi-sgôr. Nid oedd yr un tîm na'r llall yn haeddu ennill o ddifri ond QPR aeth â'r pwyntiau ar ôl i Ray Jones rwydo o groesiad Nick Ward. Syfrdannol oedd y gôl yng nghyd-destun y gêm a sioc mwy o lawer oeddi hi i Gaerdydd, wrth iddynt golli am yr ail waith o fewn pythefnos.
Ar ôl i Preston gadw pwysau ar Gaerdydd efo rhediad gwych yn ddiweddar, mae'r ddau dîm erbyn hyn yn rhannu'r prif safle, yr Adar Gleision ar y blaen oherwydd eu bod wedi sgorio un gôl yn fwy. Pwysig yw hi felly bod tîm Dave Jones yn adfer eu statws fel tîm gorau'r gynghrair yfory. Ni fydd yn dasg hawdd, wrth ystyried bod Wednesday wedi mwynhau dechreuad bywiog, ffres o dan eu hyfforddwr newydd, Brian Laws. Gêm ddiddorol bydd gan Preston wrth iddynt groesawi Crystal Palace i Deepdale. Gobeithio y bydd Jobi McAnuff a'i gyd-chwaraewyr yn gwneud ffafr i'w gyn-glwb gan ddod â rhediad campus North End i ben.