Cardiff City's 'Week in Welsh'
Last updated : 03 November 2006 By Dafydd Pritchard
Wrth ystyried bod cyn-ymosodwr Newcastle yn ‘Geordie' i'r bôn, gêm fythgofiadwy oeddi hi wrth iddo dawelu torf Sunderland ar ddau adeg.
Yn dilyn siom y gêm gyfartal yn erbyn Derby penwythnos diwethaf, roedd yna ychydig o ansicrwydd wrth i Gaerdydd deithio i'r Gogledd-Ddwyrain heb ennill am bythefnos. Mae Roy Keane wedi mwynhau dechreuad cryf i'w yrfa fel hyfforddwr a bu pryderion y byddai ei dîm yn achosi problemau i'r ymwelwyr.
Gobaith y ‘Cathod Du' oedd rhoi braw i'r ‘Adar Gleision' ar Noson Calan Gaeaf ond dim ond tair munud y gymerodd i Chopra godi ofn ar gefnogwyr y tîm cartref. Yn dilyn gwaith creu Paul Parry ar yr asgell dde, rhwydodd yr ymosodwr yn gyfforddus i roi mantais cynnar i'r brif ddinasyddion.
Rhoddodd Chris Brown gobaith i Sunderland ar ôl deg munud ond roedd Caerdydd o hyd yn rheoli'r gêm a bu Chopra'n adfer y mantais cyn y toriad. Parry unwaith eto oedd yn gyfrifol am y gwaith creu, yn atgoffa'r cefnogwyr o'r tymor disglair y mae wedi mwynhau ar yr asgell. Tymor mwy anhygoel fyth yw un Michael Chopra, sydd erbyn hyn wedi bachu deg gôl mewn pedwar gêm ar ddeg. Ystadeg rhyfeddol sy'n siwr o fagu sylw ei gyn-gyflogwyr sy'n debygol o ddifaru ei werthu yn yr haf.
Bu canlyniad nos Fawrth yn ddychweliad i berfformiadau cynnar y tymor ar ôl y siom o golli i Norwich a methu curo Derby. Roedd y gêm ddydd Sadwrn diwethaf yn achlysur rhyfedd wrth i Sam Hammam ffarwelio cyn y gêm. Cafodd y cyn-berchennog gymeradwyaeth cynnes haeddiannol a roedd yna deimlad bositif o amgylch y stadiwm ar ôl i Glenn Loovens a Chopra roi Caerdydd ar y blaen ond, yn ddwfn mewn i amser ychwanegol, daeth Giles Barnes a'r sgôr yn gyfartal. Roeddi hi'n chwip o ergyd rymus i dô y rhwyd gan y chwaraewr ifanc. Nid gwarth oedd colli buddugoliaeth i'r fath gôl.
Er yr holl sylw sydd wedi'i roi at y gêm rygbi rhwng Awstralia a Chymru yfory, mae gan dîm pêl-droed Caerdydd her go fawr wrth iddynt deithio i Essex i chwarae yn erbyn Colchester. Gobeithio i dimoedd Cymru lwyddo a'r bêl gron yn ogystal â'r un hirgron.