Daeth Hammam â brwdfrydedd ac egni anhygoel i'w waith, ac efo hyn daeth ei freuddwyd. Er i'r wasg a nifer o gefnogwyr chwerthin ar ei awgrymiad ein bod yn ‘fwy na Barcelona', dyddiau cyn colli i Darlington, mae'r clwb o fewn gafael i'r Uwch Gynghrair ac mae Peter Ridsdale, y cadeirydd newydd, yn hyderus o gyrraedd y nôd hynny.
Prif darged Ridsdale a'i gwmni yw i adeiladu'r stadiwm newydd a gwaredu'r clwb o'i dyledion sydd wedi bod, ar adegau, lan at £30 miliwn. Ar y cyfan, llwyddiant oedd amser Hammam ond bu'r dyledion yma'n cynrychioli gor-wariant y clwb o dan ei arweiniaeth ef. Y trafferthion ariannol yma arweiniodd at werthiant sêr, megis Danny Gabbidon a Graham Kavanagh, ymysg eraill. Daeth Hammam o dan bwysau aruthrol dros y dwy mlynedd diwethaf ac roedd y cyn-berchennog yn ddigon o ddyn i gyfaddef ei fod heb y “pŵer ariannol angenhreidiol” i gymryd y clwb ymlaen. Dyma yw lle daw Ridsdale a'i ddynion i'r cynllun – i fuddsoddu'n syth, dileu dyledion ac i sicrhau'r stadiwm newydd i gymryd Caerdydd ymlaen.
Er i Ridsdale drafod yn bositif ac yn hyderus, mae'n amhosib i osgoi'r risg sydd y tu ôl i'r buddsoddiadau newydd. Mae'r ‘Hedge Funds' yn cael eu hadnabod ymysg economyddwyr fel proses beryglus iawn, sydd yn dibynnu ar lwyddiannau yn y dyfodol i sicrhau elw. Y pryderion amlwg yw bod y trefniadau ariannol yma'n atgoffa rhywun o lanast Leeds United, lle bu tactegau risg Ridsdale yn arwain at ddyledion o £103 miliwn, gwerthiant eu chwaraewyr gorau ac alltudiaeth i'r Bencampwriaeth, lle maent yn dal i drafferthu.
Nid wythnos lwyddiannus oeddi hi i Gaerdydd ar y cae wrth i'r tîm golli am yr ail waith yn unig y tymor hwn. Dickson Etuhu sgoriodd y gôl fuddugol o bell i roi ail fuddugoliaeth i Norwich o dan eu hyfforddwr newydd, Peter Grant. Nid yw'r perfformiad siomedig yn wir poeni'r cefnogwyr ar ôl glwedd o bêl-droed swmpus mor belled. Amlwg oedd bod yr ymwelwyr yn colli Michael Chopra, seren y mis diwethaf, ar ôl iddo gael ei wahardd am gasglu pum cerdyn melyn. Mae'n ymddangos bod angen ymosodwr o well safon na Luigi Glombard i ddyletswyddio pan fod Chopra'n absennol.
Derby yw'r gwrthwynebwyr nesaf ac y newyddion da, yn ogystal â dychweliad Chopra, yw bod Kevin McNaughton yn holltiach ac yn barod i chwarae ar ôl anaf llinyn y gâr. Mae'r Albanwr wedi bod yn wych y tymor yma, yn amddiffynwr ddibynadwy ac yn ymosodwr beryglus. Y disgwyl yw y bydd Dave Jones yn parhau â'r system 4-4-2.
Gêm yfory felly bydd wir ddechreuad oes Peter Ridsdale. Gobeithio i fuddugoliaeth yn erbyn Derby ddechrau cyfnod lewyrchus i'r clwb. Pob lwc i'r cadeirydd newydd a diolch yn fawr i Sam Hammam.