Roedd y sgript wedi'i ysgrifennu a roedd Rob Earnshaw wrth ei fodd i ddod yn ôl i Gaerdydd i guro'i gyn-dîm. “Earnie's gonna get ya!” oedd yn atseinio ym Mharc Ninian ambell i flwyddyn yn ôl pan oedd y ‘Tywysog o Zambia' yn rhwydi bob wythnos i'r Adar Gleision. Ond ar brynhawn ddydd Sadwrn, Earnie gafodd ni, wrth iddo sgorio ar ei ddychweliad cyntaf i'r prif ddinas.
Roedd gôl y roced maint poced yn ddigon i sicrhau'r pedwerydd golled i Gaerdydd yn eu pump gêm diwethaf. Perfformiad siomedig oeddi, yn adlewyrchu diweddglo siomedig dros ben i dymor addawol. Er y siom terfynol, roedd yr Adar Gleision wedi dechrau'n dda gan greu nifer o gyfleon. Y rheini a oedd yn eog o fethu cymryd mantais oedd Steve Thompson, Cameron Jerome a Jason Koumas. Nid dyma oedd unig gyfraniad Chwaraewr y Flwyddyn, roedd Koumas ar dân yng nghanol y cae, yn lledu'r bêl i bob man ac yn swyno'r dorf â'i hud a'i ledrith.
Y brif siom i gefnogwyr Caerdydd oedd methiant eu tîm i frwydro'n ddigon galed i ennill pwynt yng ngêm gyn-derfynol y tymor. Ar ôl y dechreuad disglair, doedd gan y tîm cartref dim byd i gynnig wrth ymosod wedi i Earnshaw rhwydo i Norwich. Nid oedd gan amddiffyn Caerdydd unrhyw beth i wneud trwy gydol y 90 munud ond, efo'i unig gyfle o'r gêm, dangosodd Earnie pam ei fod wedi bod yn ffefryn um Mharc Ninian am gymaint o amser. Roedd ei ergyd yn berffaith, dim cyfle gan Neil Alexander, ond ni ddathlodd y gŵr bach yn ei ffordd arferol, unigryw. Cymerodd y dorf sylw o'r arddangosiad o barch a roedd yna deimlad o hiraeth o gwmpas y stadiwm am eu harwr a oedd yn edrych yn ddieithr yng nghrys Norwich.
Rhwystredigaeth oedd clywed y dyfarnwr yn chwibannu ar gyfer diwedd y gêm. Yr holl oedd yno i godi calon oedd y gymeradwyaeth i Earnie a'i wen o glust i glust. Koumas oedd seren y gêm unwaith eto a gafodd ei werthfawrogi yn ystod y noson wobrwyo wrth iddo dderbyn pedwar tlws, gan gynnwys y prif fraint o fod yn Chwaraewr y Flwyddyn. Cwbl haeddiannol oedd y wobr i'r gŵr sydd wedi cyfrannu nifer o uchafbwyntiau'r tymor efo'i sgiliau swynol a'i goliau wefreiddiol. Ymlaen a ni, felly, i Coventry i bennu'r tymor. Gobeithio y bydd y chwaraewyr yn gallu diweddu'r tymor mewn modd addas, efo buddugoliaeth!