Gêm ddigon diflas oeddi hi rhwng Crewe a Chaerdydd ar Heol Gresty wrth i'r canlyniad o un gôl yr un sicrhau alltudiaeth ‘Gwŷr y Rheilffyrdd'. Amlwg oeddi hi i unrhyw dyst taw gêm ddiwedd tymor rhwng ddau dîm heb unrhyw gymhelliad oedd y gêm gyfartal hon. Roedd y ddau dîm yn digon hapus i ledu'r bêl ac i chwarae pêl-droed deiniadol heb greu unrhyw cylfeon clir. Pan roeddi hi'n dechrau ymddangos yn anochel taw di-sgôr bysai hanes y frwydr tawel hon, sgoriodd y Cymro, David Vaughan, gôl wefreiddiol o 30 llath. Doedd gan Neil Alexander dim obaith o gyrraedd yr ergyd rymus. Yn anffodus i'r tîm cartref, nid oedd gôl Vaughan yn arwyddocaol am fod Sheffield Wedneday yn barod wedi curo Brighton i alltudio Crewe.
Am fod ffawd y tîm cartref wedi'i benderfynu'n barod, halen yn y briw oedd gôl Jason Koumas. Yn ddisgwyliadwy, ergyd arall hyfryd o bellter oedd y gôl. Ni ddigwyddodd unrhywbeth arall o bwys nes i Darcy Blake, y chwaraewr 17 oed, ddod ymlaen ar gyfer ei gêm gyntaf dros y clwb. Roedd yr eilyddio hyn yn awgrymu bod Dave Jones yn barod i rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc y clwb yn ystod gemau olaf y tymor. Dylid hyn olygu bod Andrea Ferretti ac eraill am wneud mwy nag ymddangosiad sydyn ar ddiwedd gêm.
Er nad oes yna unrhyw obaith o ddyrchafiad ar ôl, dylai'r gemau nesaf brofi'n ddiddorol wrth i Dave Jones wneud newidiadau i'r tîm a rhoi cip olwg ar chwaraewyr ar ymylon y garfan. Y gobaith yw y bydd y chwaraewyr hyn â digon o frwdfrydedd i brofi'u hunain i'r hyfforddwr a'r cefnogwyr. Yn ogystal â hyn, efallai taw'r ddau gêm nesaf bydd yr olaf i ambell iI chwaraewr. Bu Jones yn awgrymu y bysai angen gwerthu er mwyn gwario yn yr haf a'r rheini sy'n ansicr o'u dyfodol yw Jeff Whitley, Neil Cox a Jermain Darlington. Mae Phil Mulryne yn barod wedi derbyn ei fod am adael ac mae'n debygol y bydd Cameron Jerome yn denu llawer o sylw o glybiau'r Uwch Gynghrair. Yn y cyfamser, bydd Robert Earnshaw a Peter Thorne yn dychwelyd i Gaerdydd â'u tîm newydd, Norwich, ac yna mae'r Adar Gleision yn ymweld â Coventry i ddod â'r tymor i ben.