Dyma oedd ymweliad cyntaf Dave Jones i’w gyn glwb wedi iddo ymddiswyddo ym mis Tachwedd 2004 a nid dychweliad gofiadwy oeddi hi i’r hyfforddwr. Ar ôl arwain y clwb i’r Uwch Gynghrair ychydig dros dwy flynedd yn ôl, roedd Jones yn amlwg wedi’i rwystro wrth wylio Wolves yn dominyddu’r gêm am rannau hir o’r gêm. Denes Roasa ac un o gyn-chwaraewyr mwyaf ffyddlon Jones, Kenny Miller, sgoriodd y ddwy gôl naill ochr a’r llall i hanner amser.
Un-ochrog tu hwnt oedd y chwarter awr cyntaf a doedd neb ym Molineux wedi’u rhyfeddu i weld Rosa’n sgorio’r gôl gyntaf. Troellodd Jeremie Aliadiere, y Ffrancwr ifanc ar fenthyg o Arsenal (a’r chwaraewr â’r nifer fwyaf o lafariaid yn ei enw ym mhêl-droed, mae’n siwr!), i lawr yr asgell chwith cyn sgwario’r bêl yn gelfyd i Rosa a roedd gan y gŵr o Hwngari y dasg hawdd o roi’r bêl i gefn y rhwyd wag o lath neu ddau. Gall fod Aliadiere wedi dyblu’r fantais ond roedd gan yr ymwelwyr Neil Alexander i ddiolch am arbed yn daclus.
Yn dilyn ambell i gyfle i’r tîm cartref, daeth Caerdydd yn fyw a bu Jason Koumas yn raddol yn dylanwadu’r gêm yn fwy. Bron i Koumas unioni’r sgôr ac fe aeth Neal Ardley a Steve Thompson yn agos hefyd. Lwcus oedd Stefan Postma i osgoi embaras llwyr i’w hun wrth iddo fethu a dal ergyd Jeff Whitley’n iawn ond sicrhaodd y gôl-geidwad fod y bêl ddim am groesi’r llinell.
Ar ôl diweddglo addawol i’r ymwelwyr, cawsant eu tarfu gan eu ‘cefnogwyr’ eu hunain. Am fod yna cymaint o drafferth, bu yna oedi o bymtheg munud cyn i’r ail hanner ddechrau ac yn fuan roedd y gêm drosodd. Wyth munud ar ôl i’r gêm ail-ddechrau, cafodd Tomasz Frankowski ei lorio gan Neil Cox ac fe anfonodd Miller y bêl yn hyderus i’r cornel â’i gic o’r smotyn.
O ran newyddion arall, bu gêm dysteb i Andy Legg ar nos Fawrth a bu ser fel Robbie Savage, Neville Southall a Carl Dale yn ogystal â chwaraewyr mwy diweddar fel Peter Thorne, Kav ac Earnie yn rhan o’r gêm a chwaraewyd o flaen dros 5,500 o bobl. Noson wych i Leggy ond wythnos eithaf digalon i’r clwb wrth iddynt weld eu gobeithion tenau o gyrraeddd y gemau ail-gyfle’n diflannu.