Ar brynhawn dydd Sadwrn, rhoddodd Caerdydd wers ar sut i wneud tîm anobeithiol, Sheffield Wednseday, i edrych fel uned beryglus â bygythiad ymosodol difrifol. Er iddynt ennill o un gôl i ddim, dyma oedd un o berfformiadau mwyaf anhaclus yr Adar Gleision am rai wythnosau. Gôl flêr oedd yr ennillydd addas wrth i Cameron Jerome gipio’i ddeunawfed gôl o’r tymor.
Dechreuodd y tîm cartref mewn modd eithaf egniol a chreadigol wrth iddynt rhoi Wednesday o dan bwysau cynnar. O dan arweiniaeth Jeff Whitley, roedd y gŵyr canol cae yn cyd-chwarae’n addawol a bu Neal Ardley’n croesi’n beryglus dro ar ôl tro o’r asgell dde. Wedi i Steve Thompson a Jerome fynd yn agos ar wahanol adegau, o gornel ddaeth y gôl fuddugol. Ar ôl aros am flynyddoedd i gael chwaraewr i gymryd ciciau cornel da, ag Ardley a Koumas, mae gennym ddau o’r gorau yn y gynghrair. Koumas oedd yn gyfrifol am ddarganfod Jerome yn y cwrt cosbi ac ar ôl ambell i wyriad, sodliodd yr ymosodwr ifanc yn gelfydd i waelod y rhwyd.
Y gôl oedd digwyddiad dawnus olaf y gêm wrth i Gaerdydd fethu i sicrhau’r fuddugoliaeth. Doedd dim un o chwaraewyr yr ymwelwyr yn chwarae â hyder ac roeddent yn dangos yn union pam eu bod mor agos at waelod y gynghrair. Er hyn, yn ystod yr ail hanner, roedd yr Adar Gleision yn benderfynol o adael eu gwrthwynebwyr i gael nifer o gyfleon. Roedd Darren Purse yn ddewr ac yn gall ond roedd yr amddiffynwyr yn chwarae’n llawer rhy ddwfn, yn gwahodd yr ymwelwyr i ymosod. Yn ffodus i Gaerdydd, roedd Neil Alexander unwaith eto yn wych. Sicrhaodd ei dair arbediad campus taw y fe oedd seren y gêm (yn bennaf am fod neb arall wedi creu argraff) a taw ei dîm ef oedd yn mynd i gymryd y tri phwynt.
Newyddion da arall yr wythnos oedd bod y clwb yn agosai at arwyddo Glenn Loovens yn barhaol. Mae’r Iseldirwr eisioes wedi cychwyn trafodaethau ynglyn a’i fanylion personol ac, yn ôl pob sôn, mae’n yssu i arwyddo’n fuan.