Cardiff City's old Week in Welsh

Last updated : 06 February 2007 By Dafydd Pritchard

Heb gyfrif o'r canlyniad yfory, mi fydd Dave Jones yn mwynhau penwythnos mwy ffrwythlon na thîm criced Lloegr wrth i'w sgôr o reoli gemau pêl-droed yn y Cynghrair gyrraedd 500, heb fod allan, pan fydd Caerdydd yn chwarae yn erbyn Caerlyr.

Unwaith i Brydain ddeffro bore ma, roedd y cricedwyr yn barod wedi dioddef o grasfa arall i Awstralia ar ôl sgorio 110 rhediad yn unig rhyngddynt ond, yn ffodus i ni dros y Bont Hafren, mae hyfforddwr Caerdydd wedi cyrraedd nôd y byddai unhryw tîm criced yn falch o gyrraedd. I gymharu â'i gyd-hyfforddwyr, mae Jones yn dal i fod yn ddyn ifanc ac mae'r ffaith ei fod yn agosai at bump cant gêm yn arwyddocaol o'r llwyddiant y mae wedi mwynhau efo Stockport, Southampton a Wolves, yn ogystal â'r Adar Gleision. Gŵr proffesiynol dros ben ydyw ac, yn nodweddiadol o'i gymeriad, nid yw'r anrhydedd diweddaraf yma'n ei ddiddori cymaint a'r gêm bwysig yfory.

Y newid amlycaf ers i mi ysgrifennu diwethaf yw bod rhediad erchyll Caerdydd o 14 gêm heb ennill wedi dod i ben ar ôl iddynt guro Wolves oddi cartref o ddwy gôl i un. Magiwyd llawer o sylw yn y wasg gan y gêm am fod cefnogwyr yr ymwelwyr wedi'u gwahardd o Molineux gan y cadeirydd, Jez Moxey. Efo'r awyrgylch yn farw, canlyniad anffafriol i'w dîm, ac ar ben hynny, bil o £11,000 am yr heddlu, roeddi'n ddiwrnod i'w anghofio i Moxey.

Jason Byrne, y Gwyddel a ymunodd o Shelbourne yn ddiweddar, oedd yr arwr, wrth iddo ddod oddi ar y fainc i gipio'r pwyntiau i'w glwb newydd efo llai na deg munud yn weddill o'r gêm. Wedi i Michael Chopra dorri mewn i'r cwrt cosbi, llithro'r bêl heibio'r gôl-geidwad a phasio i ganol y cwrt, roedd Byrne yno i gyhoeddi ei gyrhaeddiad mewn modd cofiadwy dros ben. Rhyfeddod oedd yr ymateb, gan mai dim ond y rheini ar y cae ac ar y fainc oedd yno i ddathlu'r gôl. Er hynny, roedd yna dorf ym Mharc Ninian i fwynhau'r fuddugoliaeth efo cyri a chwrw canol dydd.

Gêm agos oeddi hi efo'r ddau dîm yn cyfnewid adegau o reolaeth. Daeth Wolves yn agos i sgorio ar fwy nag un adeg yn hanner cyntaf, yn enwedig trwy chwarae egniol a phenderfynol y Cymro, Craig Davies. Er y diffyg cefnogaeth, roedd gan Gaerdydd yr awydd i ymosod hefyd a nid syndod oeddi mai nhw sgoriodd gyntaf. Yn dilyn rhediad gwael uffernol o flaen y gôl, dangosodd Chopra ddewrder i ymgeisio, a thechneg gwych i lwyddo, efo foli wefreiddiol, wedi'i chodi dros ben y gôl-geidwad ac i'r rhwyd o ugain llath. Heb os, yr ymwelwyr oedd y cryfaf ar ddechrau'r ail hanner, a bu Chopra'n andros o anlwcus i weld Matt Murray, y golwr, a'r postyn yn ei atal rhag ddybli mantais ei dîm. Roedd y cyfleon yma'n sbardun i'r tîm cartref a ni welodd yr Adar Gleision y bêl am gryn dipyn o amser wrth i Michael Kightley a Davies wastraffu nifer o gyfleon i'r tîm cartref. Anochel oedd y gêm yn dod yn gyfartal, a Davies oedd yna i groesi'n berffaith i Seyi George Olofinjana rwydo. Er i Wolves fwynhau'r rhan fwyaf o'r cyfleon, Byrne oedd yno i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gaerdydd.

O'r diwedd y mae'r rhediad wedi dod i ben ond, os y gallwn droi'r fuddugoliaeth diwethaf yn sylfaen i rediad da, digon posib y byddai i Gaerdydd ddringo'r Bencampwriaeth ac ail-sefydlu'u hunain fel tîm yn cystadlu am le yn safleoedd y gemau ail-gyfle.